Am alw’ch hun yn siaradwr Cymraeg? So you want to call yourself a Welsh Speaker?


This is an easy-read version of a previously published post (Click here to read the original or click here to read an English translation). Vocab in bold is translated in the Geirfa section below.

Ydy dysgwyr yn gallu helpu targed Llywodraeth Cymru (the Welsh Government) o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Ydy pobl Cymru yn meddwl bod siaradwyr Cymraeg yn edrych neu’n i gyd yn swnio’n debyg? Ydy’r term ‘di-gymraeg’ yn disgrifio pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg neu ydy’r gair yma’n sarhad ar bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg gyda’i rhieni.

Dyma rai o’r cwestiynau diddorol iawn a gafodd eu gofyn yn nhrafodaeth Rhyddfrydwyr Cymru Ifanc. Cafodd y digwyddiad ar-lein yma ei drefnu fel rhan o’r Eisteddfod AmGen eleni.

Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Leena Fahrat sy’n Gyd-Swyddog Ymgyrchoedd RhIC (Campaigns Co-Officer) ac roedd yn braf cael gwahodd pobl o’r blaid a thu hwnt i fod yn rhan ohoni. Hefyd, roedd hi’n dda cael siaradwyr rhugl a dysgwyr yn cyfrannu gyda’i gilydd.

Mi wnaethon ni glywed wrth Katharine Young, athrawes gymwysedig Cymraeg Ail Iaith a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i gymhwysedd sosioieithyddol plant ysgol uwchradd. Hefyd ar y panel roedd E’zzati Ariffin dysgwr a blogiwr sy’n wreiddiol o Frunei. Mae hi nawr yn byw yn Aberystwyth. Yn siarad o Norwy roedd Preben Vanberg. Mae Preben yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae e wedi creu bot Cymraeg. Mae’r bot yma’n helpu dysgwyr ar-lein. Hefyd yn siarad roedd Jack Pulman-Slater, Cydlynydd y Gymraeg (Welsh Language Coordinator) dros Ryddfrydwyr Cymru Ifanc.

Does dim llawer o gyfleodd i siaradwyr rhugl a dysgwyr siarad a’i gilydd mewn digwyddiadau ffurfiol. Felly, roedd hi’n wych gweld dysgwyr a siaradwyr rhugl yn trafod y pwnc pwysig yma. Mi wnaethon ni glywed wrth Katharine Young am bwysigrwydd sicrhau bod pawb yn defnyddio eu sgiliau ieithyddol, beth bynnag yw ei lefel hyfedredd. Dyma rywbeth roedd y digwyddiad yma’n gallu ei wneud.

Aeth y drafodaeth i’r afal â llawer o gwestiynau am statws siaradwyr ail iaith. Mi wnaethon ni siarad am y ffaith fod dysgwyr a siaradwyr ail iaith yn chwarae rôl pwysig iawn yn nyfodol yr iaith. Maen nhw’n gallu helpu targed y Llywodraeth o gael 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Hefyd, mi wnaethon ni siarad am yr angen dros greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn anffurfiol y tu allan i’r dosbarth Cymraeg. Yn lle gorfodi’r Gymraeg drwy bolisïau “dim Saesneg”, soniodd Jack Pulman-Slater am bwysigrwydd annog dwyieithrwydd a hyblygrwydd ieithyddol. Dydyn ni ddim eisiau dweud wrth berson “Mae rhaid i chi ddefnyddio’r iaith yma yn y sefyllfa yma”. Dyn ni eisiau helpu ac annog pobl i ddefnyddio pob iaith sydd gyda nhw a mwynhau dysgu a siarad y Gymraeg.

Y peth mwyaf diddorol oedd clywed am brofiadau’r dysgwyr eu hunain o ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. Dyw’r Gymraeg ddim yng Nghymru yn unig. Mae hi’n cael ei siarad a’i dysgu dros y byd i gyd, gan gynnwys Sgandinafia ac ynys Borneo yn achos dau o’n panelwyr. Disgrifiodd E’zzati sut roedd hi wedi cwrdd â’i gwr drwy’r Gymraeg. Mae hi nawr yn gwneud fideos poblogaidd ar Youtube. I E’zzati, mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’i bywyd bob dydd.

Mae Preben defnyddio technoleg i ddysgu’r Gymraeg ac i helpu pobl arall i’w dysgu. Mae Preben yn rhan o’r tîm sy’n gwneud cwrs Cymraeg poblogaidd iawn ar ap Duolingo. Ar y funud, mae e’n gweithio ar bot sy’n gallu cyfieithu a helpu gyda gramadeg.

Dyn ni’n gallu siarad am amser hir iawn am bethau fel y gair ‘di-gymraeg’. Ond, mae un peth yn amlwg iawn ar ôl y drafodaeth yma: mae dysgwyr a siaradwyr ail iaith yn bwysig iawn. Mae potensial gyda nhw gynyddu nifer siaradwyr a newid tynged y Gymraeg. Maen nhw’n gallu gwneud hyn drwy fabwysiadu’r iaith fel iaith eu cartrefi neu drwy mynd â’r Gymraeg i lefydd technolegol newydd ar-lein. O bydded i’r dysgu barhau!

Geirfa - Vocab

sarhad ar - an insult to
a gafodd eu gofyn - which were asked
trafodaeth - discussion
digwyddiad - event
cafodd... ei drefnu - ... was arranged
cafodd ... ei chadeirio - was chaired
gwahodd - to vite
y blaid - the party
tu hwnt - beyond
rhugl – fluent
cyfrannu – to contribute
gymhwysedig - qualified
ymchilio - to research
cymhwysedd – capability
sosioieithyddol – sociolinguistic
cyfle - chance
sicrhau - to ensure
ieithyddol - linguistic
hydredredd - proficiency
Aeth... i'r afal â - took to task, got to the bottom of
gorfodi - to force
soniodd - mentioned
annog - to encourage
dwyieithrwydd - bilingualism
hyblygrwydd ieithyddol - linguistic flexibility
sefyllfa - situation
profiad - experience
yn achos - in the case of
cyfieithu - to translate
amlwg - obvious
cynyddu nifer - to increase the number of
tynged - fate
mabwysiadu - to adopt


Share this post on social media:

Sign in with Facebook, Twitter or Email.