Am alw’ch hun yn siaradwr Cymraeg? Ein Digwyddiad yr Eisteddfod AmGen


key_eisteddfod.jpg

If you're a Welsh learner, click here for an easy read version of this article, or click here for an English translation.

Pa rôl sydd gan ddysgwyr a siaradwyr ail iaith i’w chwarae yn yr ymdrechion i wireddu targed Llywodraeth Cymru o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Oes gan bobl Cymru ddelwedd benodol o acen neu edrychiad siaradwyr Cymraeg? Ydy’r term ‘di-gymraeg’ yn ddisgrifiad syml o gyflwr ieithyddol neu’n sarhad ar bobl o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn iaith yr aelwyd? Dyma ond ychydig o’r cwestiynau hynod o ddiddorol a ofynnwyd yn ystod trafodaeth ddifyr Rhyddfrydwyr Cymru Ifanc a gynhaliwyd yn rhithiol fel rhan o ddigwyddiadau’r Eisteddfod AmGen eleni.

Cadeiriwyd y drafodaeth gan Leena Fahrat sy’n Gyd-Swyddog Ymgyrchoedd RhIC ac roedd yn braf cael gwahodd cyfranogwyr panel o’r blaid a thu hwnt i fod yn rhan o’r digwyddiad yn ogystal â chael siaradwyr rhugl a dysgwyr yn cyfrannu ar y cyd. Cawsom glywed wrth Katharine Young, athrawes gymwysedig Cymraeg Ail Iaith a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i gymhwysedd sosioieithyddol plant ysgol uwchradd. Hefyd ar y panel roedd E’zzati Ariffin dysgwr a blogiwr sy’n wreiddiol o Frunei, bellach wedi ymgartrefi yn Aberystwyth. Yn ymuno â’r drafodaeth o Norwy roedd Preben Vanberg dysgwr a myfyriwr Prifysgol Aberystwyth sydd wedi creu bot Cymraeg sy’n rhoi help llaw i ddysgwyr ar-lein. Hefyd yn cyfrannu at y digwyddiad roedd Jack Pulman-Slater, Cydlynydd y Gymraeg dros RhIC.

Yn ogystal â’r holl gwestiynau holl bwysig ar y pwnc llosg hwn, yr hyn sy’n sefyll allan am y digwyddiad hwn oedd ei hyblygrwydd ieithyddol. Prin iawn yw’r cyfleoedd i siaradwyr rhugl a dysgwyr ryngweithio â’i gilydd ac roedd yn dra positif gweld dysgwyr yn cyfrannu at ddadl mor bwysig ar yr un platfform â siaradwyr rhugl. Cawsom glywed wrth Katharine am bwysigrwydd sicrhau y gall pawb ddefnyddio eu sgiliau ieithyddol, ni wnaeth beth fo’r lefel hyfedredd sydd ganddynt. Llwyddwyd y digwyddiad hwn wireddu’r nod hwnnw drwy sicrhau roedd pawb yn ymateb i gwestiwn yr oedd eu cymhwysedd bresennol yn y Gymraeg yn eu galluogi i’w hateb. 

Aeth y drafodaeth i’r afal â nifer o faterion ynghylch statws siaradwyr ail iaith gan ganolbwyntio’n benodol ar y rôl hanfodol sydd ganddynt yn yr ymdrechion parhaol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chyrraedd targed uchelgeisiol 2050. Trafodwyd yr angen dros greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn anffurfiol y tu allan i gyd-destunau addysgol. Yn hytrach na gorfodi’r Gymraeg drwy bolisïau “dim Saesneg”, soniodd Jack am bwysigrwydd annog dwyieithrwydd a hyblygrwydd ieithyddol gan gydnabod bod gan ieithoedd gwahanol swyddogaethau gwahanol ac nad yw’n rhesymol allgau iaith o sefyllfa benodol.

Ond gellir dadlau mai clywed am brofiadau’r dysgwyr eu hunain o gaffael a defnyddio’r Gymraeg oedd uchafbwynt y drafodaeth. Roedd yn amlwg nad yw’r Gymraeg wedi’i chyfyngu i Gymru ond eu bod bellach yn hawlio cysylltiadau byd-eang, gan gynnwys Sgandinafia ac ynys Borneo yn achos dau o’n panelwyr. 

Disgrifiodd E’zzati sut roedd y Gymraeg yn borth i gariad ac wedi eu galluogi hi i fynd ati i greu cynnwys Cymraeg mewn fideos poblogaidd ar Youtube. I E’zzati, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’i bywyd beunyddiol a bywyd ei theulu ifanc. Mae Preben wedi mynd â’r Gymraeg a’r broses o’i dysgu i blatfformau a lefelau technolegol newydd. Mae Preben yn rhan o’r tîm sy’n cynnal cwrs Cymraeg hynod o boblogaidd ar ap Duolingo ac wrthi’n gweithio ar bot sy’n cyfieithu a rhedeg berfau ar blatfform cymdeithasol Discord.

Heb os, gallwn ddisgwyl i’r drafodaeth ynghylch arwyddocâd termau megis ‘di-gymraeg’ neu ymdrechion i adnewyddu cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith barhau am gyfnod sylweddol eto. Fodd bynnag, wrth i’r drafodaeth ddod i ben, daeth yn amlwg nad oes unrhyw beth dadleuol am statws siaradwyr ail iaith o ran targed 2050. Mae ganddynt botensial enfawr i drawsnewid tynged a pharhad y Gymraeg, boed hynny drwy fabwysiadu’r iaith fel iaith eu cartrefi neu drwy arloesi ar-lein ac ehangu parth technolegol y Gymraeg. O bydded i’r dysgu barhau!

Gallech wylio'r drafodaeth yma:


Share this post on social media:

Sign in with Facebook, Twitter or Email.